Nod yr adnodd hwn yw darparu cyngor ac arweiniad ar gynnal sgrinio iechyd cychwynnol ac asesiadau ffitrwydd, yn unol â phrotocolau ACSM.

Ar gyfer pob agwedd, mae fideo yn egluro ac yn dangos y protocol, ac mae dogfen ategol yn dangos y protocol mewn fformat ysgrifenedig.

Daw'r holl wybodaeth yn yr adnodd hwn o’r llyfr ‘ACSM’s Guidelines for Exercise Testing and Prescription (10th Edition)’. Cynhyrchwyd yr adnodd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chanolfan Peniarth, a'i ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.