Prawf 05: Mynegai Mass y Corff (BMI)

Atodiadau

Fideo 5 - Taldra, pwysau a mynegai màs y corff (BMI)

Dylai pwysau'r corff gael ei fesur drwy ddefnyddio clorian drawst wedi’i graddnodi neu glorian electronig, a dylai’r cleient wisgo cyn lleied â phosibl o ddillad, dim esgidiau a phocedi gwag. Ar ôl gosod y glorian ar sero, dylai'r cleient gamu arni ac aros yn llonydd nes bod darlleniad wedi’i gymryd.

I fesur taldra, dylai’r unigolyn dynnu ei esgidiau cyn camu ar y stadiomedr. Dylai’r cleient sefyll yn gefnsyth â’i sodlau ynghyd, ei ben ôl, rhan uchaf ei gefn a’i ben yn cyffwrdd â'r stadiomedr, gyda’r pen yn lefel ac yn edrych yn syth ymlaen. Dylai’r mesuriadau gael eu cofnodi i'r 0.1 cm agosaf.

Ar ôl i’r pwysau a’r taldra gael eu mesur, mae’n bosibl cyfrifo mynegai màs y corff. Byddwch yn gwneud hyn drwy rannu pwysau'r corff mewn cilogramau â thaldra mewn metrau sgwâr. Fel yr amlinellir yn Nhabl 4.1 (tudalen 70), mae BMI o lai na 18.5 yn cyfrif fel rhy ysgafn, rhwng 18.5 a 24.9 yn cyfrif fel normal, 25-29.9 yn cyfrif fel rhy drwm, a thros 30 yn cyfrif fel gordew.

Rhaid cofio nad yw BMI yn cymryd i ystyriaeth màs cyhyrau yr unigolyn. Oherwydd hyn, bydd y rhai sy'n eithaf cyhyrog yn aml yn cael eu cyfrif yn rhy drwm er nad ydyn nhw’n rhy drwm mewn gwirionedd. Am y rheswm hwn, gallwch ystyried asesiadau eraill o gyfansoddiad y corff sy'n mesur braster y corff yn fwy cywir, neu gallwch ddefnyddio cwmpas y wasg a’r cluniau ochr yn ochr â’r BMI.