Prawf 10: Prawf Eistedd ac Ymestyn

Atodiadau

Fideo 10 – Prawf Plygu’r Corff Ymlaen (Eistedd ac Ymestyn) o Ganada

Hyblygrwydd yw'r gallu i symud cymal drwy'r cyfan o’i amrediad symud, ac mae hyblygrwydd yn bwysig mewn perfformiad athletaidd ac mewn gweithgareddau ar gyfer bywyd bob dydd. Mae hyblygrwydd yn benodol i bob cymal unigol, felly does dim un prawf sy’n gallu gwerthuso hyblygrwydd y corff cyfan. Er hynny, un prawf sy’n cael ei gynnwys yn aml mewn asesiad o iechyd a ffitrwydd yw'r prawf eistedd-ac-ymestyn sy’n profi hyblygrwydd rhan isaf y cefn a llinyn y gar.

Protocol

  1. Cyn y prawf, dylai'r unigolyn wneud ychydig o waith cynhesu gan gynnwys rhywfaint o ymestyn llinyn y gar a rhan isaf y cefn.
  2. Mae'r unigolyn yn eistedd heb esgidiau ac mae gwadnau’r traed yn fflat yn erbyn y bocs eistedd-ac-ymestyn gyda'r marc sero wedi’i osod ar 15cm. Dylai ochrau mewnol y gwadnau fod 15cm ar wahân.
  3. Dylai'r cleient ymestyn y ddwy law ymlaen yn araf ac mor bell â phosibl, gan gadw'r safle hwn am ryw ddwy eiliad. Gofalwch fod y cleient yn cadw'r dwylo'n baralel ac nad yw'n arwain ag un llaw, nac yn bownsio. Gall blaenau’r bysedd orgyffwrdd ac fe ddylen nhw gyffwrdd â’r bwrdd mesur ar y bocs eistedd-ac-ymestyn.
  4. Y sgôr yw'r man pellaf y gall yr unigolyn ei gyrraedd â’r bysedd. Dylech gofnodi'r un gorau o ddau gynnig. I helpu gyda'r ymgais gorau, dylai'r cleient anadlu allan a gollwng y pen rhwng y breichiau wrth ymestyn. Dylai’r profwr sicrhau bod pengliniau'r cleient wedi’u hymestyn, ond ddylai'r profwr ddim pwyso'r pengliniau i lawr. Dylai'r cleient anadlu yr un fath ag arfer yn ystod y prawf ac nid dal ei anadl ar unrhyw adeg.

Dehongli’r prawf

Mae data normadol ar gael yn ôl oedran a rhyw yn nhabl 4.13 (tudalen 105). Sylwch fod y tabl wedi’i seilio ar focs eistedd-ac-ymestyn lle mae sero wedi’i osod ar 15 cm. Ar gyfer bocsys lle mae sero wedi’i osod ar 23cm neu 26cm, adiwch 8cm neu 11cm yn y drefn honno at bob gwerth.

(Mae angen tynnu 11cm o bob gwerth yn nhabl 4.13 er mwyn defnyddio’r tabl yn yr adnodd yma)