Prawf 08: Cryfder yr Afael

Atodiadau

Fideo 8 – Ffitrwydd y Cyhyrau – Cryfder yr Afael

Mae cryfder y cyhyr yn cyfeirio at allu'r cyhyr i roi ei rym mwyaf ar waith ar un achlysur, ac mae modd profi hyn yn statig neu'n ddeinamig. Mae llawer o brofion gwahanol ar gael ar gyfer cryfder y cyhyrau, a'r dull safonol o fesur cryfder deinamig yw'r prawf uchafswm 1 ailadroddiad (1RM). Un prawf syml ac effeithiol o gryfder isomedrig yw cryfder yr afael gan ddefnyddio deinamomedr llaw. Mae mesuriadau o gryfder yr afael wedi rhagfynegi marwoldeb a statws gweithredol mewn unigolion hŷn.

Protocol

  1. Addaswch y bar gafael fel bod ail gymal y bysedd yn ffitio'n glyd o dan y carn ac yn cymryd pwysau'r offeryn. Gosodwch y deinamomedr ar sero.
  2. Mae’r unigolyn yn dal y deinamomedr llaw mewn llinell â’r elin ar lefel y forddwyd, i ffwrdd o’r corff.
  3. Mae'r unigolyn yn gwasgu'r deinamomedr llaw mor galed ag y gall heb ddal ei anadl. Ni ddylai'r llaw na'r deinamomedr gyffwrdd â'r corff nac unrhyw eitem arall.
  4. Gwnewch y prawf ddwywaith gyda’r ddwy law. Y sgôr yw'r uchaf o'r ddau ddarlleniad (i'r cilogram agosaf) ar gyfer pob llaw, wedi'u hadio at ei gilydd.

Dehongli’r prawf

Gall y cyfanswm gael ei gymharu â data normadol trwy ddefnyddio tabl 4.8 (tudalen 97)