Fideo 9 – Ffitrwydd y Cyhyrau – Profi Dygnwch y Cyhyrau drwy Wneud Gwasgau Byrfraich
Dygnwch cyhyrol yw’r gallu sydd gan grŵp o gyhyrau i wneud eu gwaith dro ar ôl tro dros gyfnod o amser sy'n ddigon i achosi blinder yn y cyhyrau, neu’r gallu i gynnal canran benodol o'r 1-RM am gyfnod hir o amser.
Un prawf maes syml o ddygnwch y cyhyrau yn rhan uchaf y corff yw'r prawf dygnwch gwasgau byrfraich. Dylai’r cleient wneud ymarferion cynhesu priodol cyn gwneud y prawf hwn.
Protocol
- Safle’r cleient i ddechrau
- Dynion – safle ‘i lawr’ – y dwylo’n pwyntio ymlaen ac o dan yr ysgwyddau, y cefn yn syth, y pen i fyny, gan ddefnyddio bysedd y traed fel y colyn.
- Menywod – safle ‘gwasg pen-gliniau’ wedi’i addasu – y coesau gyda’i gilydd, rhan isaf y goes yn cyffwrdd â’r mat a gwadn y pigwrn wedi’i blygu, y cefn yn syth, y dwylo led yr ysgwyddau ar wahân, y pen i fyny, gan ddefnyddio’r pen-gliniau fel y colyn.
- Rhaid i'r unigolyn godi'r corff drwy sythu'r penelinoedd a dychwelyd i'r safle 'i lawr’, nes bod yr ên yn cyffwrdd â'r mat. Ddylai'r stumog ddim cyffwrdd â'r mat.
- Yn achos dynion a menywod, rhaid i gefn yr unigolyn fod yn syth bob amser, a rhaid i'r unigolyn wthio i fyny i safle braich syth.
- Y sgôr yw cyfanswm y gwasgau sy’n cael eu cwblhau o’r bron heb orffwys.
- Mae'r prawf yn cael ei atal pan fydd yr unigolyn yn dangos straen neu'n methu cynnal y dechneg briodol mewn dwy wasg o’r bron.
Dehongli’r prawf
Gallwch gymharu cyfanswm y gwrthwasgiadau sydd wedi'u cwblhau â data normadol yn ôl oedran a rhyw gan ddefnyddio tabl 4.11 (tudalen 102)