Fideo 2 – Cyfarwyddiadau i’r Cyfranogwyr
Er mwyn sicrhau bod y profion yn ddilys a dibynadwy, mae'n bwysig bod y cyfranogwyr yn ceisio lleihau'r newidynnau a allai ddylanwadu ar eu canlyniadau. Mae modd gwneud hyn drwy roi cyfarwyddiadau i'r rhai sy'n cymryd rhan cyn eu hapwyntiad, a hynny mewn ysgrifen yn ddelfrydol a sawl diwrnod ymlaen llaw. Dylech ystyried cynnwys y pwyntiau canlynol yn y cyfarwyddiadau hyn, gan ddibynnu ar y math o brawf a diben y prawf:
- Dylai’r cyfranogwyr o leiaf ymatal rhag bwyta bwyd, cymryd alcohol, yfed caffein, neu ddefnyddio cynhyrchion tybaco, o fewn tair awr cyn cael eu prawf.
- Dylai’r cyfranogwyr fod wedi gorffwys cyn yr asesiad, sy’n golygu osgoi ymdrech sylweddol neu ymarfer corff ar ddiwrnod yr asesiad.
- Dylai eu dillad ganiatáu i’r unigolion symud yn rhwydd a dylen nhw wisgo esgidiau cerdded neu esgidiau rhedeg.
- Dylech roi gwybod i’r cyfranogwyr os ydyn nhw’n mynd i deimlo’n flinedig ar ôl eu profion, ac efallai y byddan nhw am gael rhywun i ddod gyda nhw i'w gyrru nhw adref wedyn.
- Dylai’r cyfranogwyr ddod â rhestr o'u moddion neu eu ffisig, gan gynnwys y dos a pha mor aml maen nhw’n eu cymryd.
- Dylech chi ddweud wrth y cyfranogwyr am yfed digon yn y cyfnod o 24 awr cyn y prawf, i sicrhau eu bod wedi yfed yr un fath ag arfer.