Prawf 07: Ffitrwydd Cardio Anadlol

Atodiadau

Fideo 7 – Ffitrwydd Cardio-anadlol – Prawf Ergomedr Beicio Astrand-Ryhming

Mae yna gysylltiad rhwng cynnydd mewn ffitrwydd cardio-anadlol a gostyngiad mewn marwolaethau o bob achos. Prawf VO2max yn defnyddio sbirometreg cylched agored yw’r safon aur o ran mesur ffitrwydd cardio-anadlol. Er hynny, mae hwn yn cynnwys offer labordy, lefelau sylweddol o arbenigedd, a gall fod yn annymunol i’r cyfranogwyr. Mae nifer o brofion maes isfacsimaidd ar gael, gan ddefnyddio amryw o ddulliau ymarfer gan gynnwys melin draed, ergomedr beicio a phrofion camu, sy'n caniatáu i VO2max gael ei amcangyfrif.

Mae’r fideo hwn yn disgrifio’r drefn ar gyfer cynnal prawf ergomedr beicio isfacsimaidd Astrand-Ryhming.

Fel y gwelson ni mewn fideos eraill, cyn cynnal y prawf, mae'n rhaid sgrinio iechyd y cyfranogwr, a sicrhau cydsyniad gwybodus. Dylai mesuriadau gorffwys sylfaenol gael eu gwneud, a dylai cyfarwyddiadau gael eu rhoi i’r cyfranogwyr cyn y prawf hefyd.

Nod y prawf hwn yw sicrhau gwerthoedd cyflymder calon o rhwng 125 a 170 bpm erbyn diwedd prawf un-cam sy’n para 6 munud.

Protocol

  1. Os ydych yn defnyddio monitor cyflymder calon, gosodwch y strap ar y frest fel a ddisgrifir yn y fideo mesur cyflymder y galon.
  2. Mesurwch gyflymder y galon wrth orffwys a’r pwysedd gwaed yn union cyn yr ymarfer a hynny gyda’r cyfranogwr yn ei osgo ymarfer.
  3. Dylech sicrhau bod y cleient yn gyfarwydd â'r ergomedr, ac addasu'r sedd fel bod ongl o ryw 25° yn y pen-glin yn yr estyniad mwyaf.
  4. Dechreuwch drwy gynhesu am 2-3 munud i’r cleient gael dod yn gyfarwydd â’r ergomedr.
  5. Dewiswch gyflymder gwaith addas yn ôl rhyw a statws ffitrwydd y cleient fel a ganlyn:
    1. Dynion sydd heb wneud gwaith cyflyru – 50 neu 100 Watt
    2. Dynion sydd wedi gwneud gwaith cyflyru – 100 neu 150 Watt
    3. Menywod sydd heb wneud gwaith cyflyru – 50 neu 75 Watt
    4. Menywod sydd wedi gwneud gwaith cyflyru – 75 neu 100 Watt
  6. Ar ôl gosod y gwrthiant priodol, dywedwch wrth y cleient am gadw cyflymder pedlo o 50rpm.
  7. Ar ôl 3 munud, os yw cyflymder y galon dan 125bpm neu dros 170bpm, addaswch y cyflymder gwaith mewn modd priodol.
  8. Dylech derfynu'r prawf os bydd y cleient yn cyrraedd 85% o’r cyflymder calon uchaf sydd wedi’i rag-weld ar gyfer oedran y cleient
  9. Ar ôl cyrraedd cyflymder calon cyson rhwng 125 a 170 bpm, mesurwch gyflymder y galon ar ddiwedd y bumed funud a’r chweched funud a chyfrifwch y cyfartaledd.
  10. Dylech ganiatáu cyfnod oeri addas i’r cleient ar ôl y prawf.
  11. Daliwch i fonitro’r cleient am o leiaf 5 munud ar ôl y prawf.

Dehongli’r prawf

Ar ôl ichi gyfrif cyflymder y galon, rhaid ichi luosi'r gwerth hwn â’r ffactor cywiro oedran perthnasol fel yr amlinellir yn y tabl ar dudalen 87.

Mae’r ffigur ar gyfer cyflymder y galon wedi’i addasu yn ôl oedran, ynghyd â gwerth y llwyth gwaith, yn cael ei blotio ar y nomogram (tudalen 89) er mwyn amcangyfrif sgôr VO2max yr unigolyn. Mae cyflymder y galon yn cael ei blotio ar yr ochr chwith, ac mae'r llwyth gwaith yn cael ei blotio ar yr ochr dde (sylwch fod y llwyth gwaith ar y nomogram yn cael ei nodi mewn kg y metr y funud - mae 50W yn hafal i 300 kg y metr y funud). Mae llinell yn cael ei thynnu rhwng y ddau, a’r fan lle mae'n torri’r llinell VO2max yw'r amcangyfrif o’r gwerth ar gyfer yr unigolyn.

Er mwyn cymharu unigolion a chymharu â data normadol, mae’r gwerthoedd VO2max absoliwt fel arfer yn cael eu trosi'n werthoedd cymharol trwy rannu â phwysau corff yr unigolyn, a lluosi â 1000 i drosi o litrau i ml, fel y gwelir yn yr hafaliad canlynol:

VO2max cymharol (ml/kg/min) = VO2max absoliwt (L/min) / pwysau’r corff (kg) x 1000

Wedyn, gall y gwerth cymharol gael ei gymharu â’r data normadol yn nhabl 4.7 (tudalen 93)