Prawf 01: Sgrinio Iechyd

Atodiadau

Fideo 1 – Sgrinio Iechyd a Mesur Iechyd cyn Cymryd Rhan mewn Ymarfer Corff

Mae yna nifer o fanteision iechyd sy'n gysylltiedig â bod yn fwy egnïol a gwella’ch ffitrwydd. Ar y llaw arall, mae cysylltiad cryf rhwng diffyg gweithgarwch corfforol, ffordd segur o fyw a nifer o ganlyniadau negyddol o ran eich iechyd. Ond, i rai pobl mae gweithgarwch egnïol yn gallu cynyddu'r risg o ddigwyddiadau cardiaidd.

Cyn i rywun ddechrau neu fwrw ymlaen â rhaglen ymarfer corff, mae’n bwysig bod eu hiechyd yn cael ei sgrinio, bod mesuriadau sylfaenol penodol yn cael eu cymryd, a bod y risgiau sy’n codi drwy gymryd rhan mewn ymarfer corff yn cael eu hesbonio'n llawn. Bydd y fideo hwn yn disgrifio'r dulliau sgrinio iechyd sydd ar gael, sut i sicrhau cydsyniad gwybodus, a'r mesuriadau sylfaenol cychwynnol sy’n angenrheidiol.

Sgrinio Iechyd

Pwrpas sgrinio iechyd yw adnabod unigolion sy’n wynebu mwy o risg o gael digwyddiadau cardïaidd, a gweld pwy ddylai gael ei gyfeirio i gael caniatâd meddygol gan ddarparwr gofal iechyd cyn iddyn nhw ddechrau ymarfer corff.

Dau ddull sgrinio sy'n cael eu hargymell i’w defnyddio gyda phoblogaethau anghlinigol, cyffredinol yw'r PAR-Q + ac algorithm sgrinio cyn-gyfranogi yr ACSM.

  • Dull sgrinio sy’n gweithio dan arweiniad yr unigolyn ei hunan yw’r PAR-Q +. Mae’n gofyn i'r unigolyn gwblhau holiadur ynglŷn â'i iechyd cyffredinol. Gan ddibynnu ar yr atebion sy’n cael eu rhoi, mae'r holiadur yn argymell a ddylai'r unigolyn ofyn am ganiatâd meddygol cyn dechrau rhaglen ymarfer corff neu beidio.
  • Mae algorithm sgrinio cyn-gyfranogi yr ACSM yn ddull sydd wedi’i gynllunio i ddod o hyd i unigolion sy’n wynebu risg o gymhlethdodau cardiofasgwlaidd wrth wneud ymarfer corff aerobig neu yn union wedyn. Mae’r algorithm yn caniatáu i weithiwr ymarfer corff proffesiynol bwyso a mesur a ddylai’r unigolyn gael ei gyfeirio at feddyg i gael caniatâd, a hynny ar sail:
    • Ei lefel bresennol o weithgarwch corfforol;
    • Clefyd cardiofasgwlaidd, metabolig neu arennol hysbys, neu arwyddion neu symptomau sy’n awgrymu bod clefyd felly yn bresennol;
    • Pa mor ddwys fydd yr ymarfer corff.

Mae'n beth cyffredin i weithwyr proffesiynol ymarfer corff ddefnyddio'r ddau ddull – gall y PAR-Q+ gael ei ddefnyddio i ddechrau i gasglu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn defnyddio algorithm yr ACSM wedyn.

Ar sail canlyniadau'r broses sgrinio iechyd, mae’r unigolion naill ai'n cael eu cynghori i ofyn am ganiatâd meddygol neu'n cael eu hargymell i gymryd rhan mewn ymarfer corff ar ddwyster penodol.

Mae’r dulliau sgrinio hyn yn cael eu hawgrymu i'w defnyddio gyda'r cyhoedd anghlinigol, a gallwch ddod o hyd iddyn nhw yn yr adran adnoddau. Mae yna ddulliau mwy trylwyr o adnabod haenau’r risg a ddylai gael eu defnyddio wrth weithio gyda chleifion mewn lleoliad adsefydlu cardïaidd neu leoliad ffitrwydd meddygol.

Cydsyniad Gwybodus

Mae sicrhau cydsyniad gwybodus y cyfranogwr yn ystyriaeth foesegol a chyfreithiol bwysig.

Mae'n bwysig bod digon o wybodaeth yn cael ei darparu yn y broses cydsynio gwybodus i sicrhau bod y cyfranogwr yn gwybod ac yn deall y dibenion a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r prawf neu â’r rhaglen ymarfer corff.

Dylai’r ffurflen gydsynio gael ei hesbonio ar lafar i'r cyfranogwr a dylai gynnwys datganiad bod y cyfranogwr wedi cael cyfle i ofyn cwestiynau.

Mae’n rhaid i'r ffurflen ddweud bod y cyfranogwr yn rhydd i dynnu’n ôl o'r weithdrefn unrhyw bryd.

Yn achos plant dan oed, rhaid i riant neu warcheidwad cyfreithiol lofnodi'r ffurflen gydsynio.

Mae ffurflen gydsynio enghreifftiol sydd wedi’i llunio gan yr ACSM ar gael (tudalen 46)

Mae'n rhaid gwneud pob ymdrech i ddiogelu preifatrwydd yr wybodaeth iechyd a chadw at y gyfraith ar ddiogelu data.

Asesiad o Ffactorau Risg Clefyd Cardiofasgwlaidd

Mae asesiad o’r ffactorau risg ar gyfer Clefyd Cardiofasgwlaidd (CVD) yn golygu pennu faint o feini prawf ffactorau risg CVD mae'r cyfranogwr yn eu hateb. Mae presenoldeb ffactor risg yn cynyddu'r risg y bydd y cyfranogwr yn datblygu CVD yn y dyfodol. Mae cwblhau'r ymarfer hwn gyda'r cleient nid yn unig yn fuddiol o ran sicrhau gwybodaeth bwysig er mwyn datblygu rhaglen ymarfer corff i’r cleient, ond mae hefyd yn gallu bod yn gyfle defnyddiol i ddysgu'r cleient bod angen iddo newid ei ffordd o fyw. Gallwch weld tabl o'r ffactorau risg, a'r meini prawf, fel maen nhw wedi’u diffinio gan yr ACSM, yn Nhabl 3.1 (tudalen 48).

Mesuriadau cyn Cymryd Rhan

Mae yna fesuriadau sylfaenol sy’n cael eu hargymell hefyd yn ystod y broses cyn i rywun ddechrau cymryd rhan mewn ymarfer corff, a chyn i elfennau ffitrwydd sy'n gysylltiedig ag iechyd gael eu hasesu. Oni bai bod cyfleusterau profi gwaed ar gael, ar gyfer mesuriadau fel glwcos gwaed, triglyseridau a cholesterol, mae’r mesuriadau sylfaenol canlynol yn cael eu hargymell:

  1. Pwysedd gwaed
  2. Cyflymder y galon wrth orffwys
  1. Taldra
  2. Pwysau
  3. Cwmpas y wasg a’r cluniau
  4. Gweithrediad yr ysgyfaint (argymhellir y mesuriad hwn ar gyfer ysmygwyr >45 oed ac unrhyw unigolion sy’n fyr eu gwynt, sydd â pheswch cronig, sy’n gwichio wrth anadlu neu sy’n creu gormod o lysnafedd neu fwcws)

Mae fideos ar wahân ar gael sy’n egluro'r protocolau ynglŷn â’r mesuriadau hyn.