Prawf 06: Cwmpas y Wasg a'r Cluniau

Atodiadau

Fideo 6 – Cwmpas y Wasg a’r Cluniau

Ynghyd â faint o fraster sydd gan rywun, mae patrwm dosbarthu'r braster hefyd yn bwysig o safbwynt iechyd. O’i gymharu â chario braster ar y cluniau a'r morddwydydd, mae cario cyfran uwch o fraster ar eich corff ac o amgylch eich organau yn cynyddu'ch risg o orbwysedd, clefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2 a syndrom metabolig. Am y rheswm hwn, mae mesur cwmpas y wasg a’r cluniau yn aml yn cael ei argymell mewn asesiad iechyd.

Protocol

  1. Dylai pob mesuriad gael ei wneud â thap mesur sy’n hyblyg ond nad yw’n ymestyn.
  2. Dylai’r tâp gael ei osod ar wyneb y croen lle bo modd, heb gywasgu'r feinwe flonegog o dan y croen.
  3. Cymerwch ddau fesuriad ym mhob safle ac ail-fesur os nad yw'r ddau fesuriad o fewn 5mm i’w gilydd.
  4. Newidiwch y safleoedd mesur ychydig i adael i'r croen ddod yn ôl i’w siâp normal. Hynny yw, peidiwch ag ail-fesur yn yr un safle ar unwaith.

Ble i fesur y wasg

Gyda'r unigolyn yn sefyll, a’r breichiau wrth ei ochr, y traed gyda'i gilydd, a'r abdomen wedi ymlacio, mae mesuriad llorweddol yn cael ei gymryd wrth ran gulaf y torso (uwchlaw’r bogail ac islaw'r cnepyn seiffoid).

Ble i fesur y cluniau

Gyda'r unigolyn yn sefyll, a’r traed gyda'i gilydd, mae mesuriad llorweddol yn cael ei gymryd yn y fan lle mae cwmpas y pen ôl ar ei fwyaf.

Mae cymhareb y wasg:clun (neu’r WHR) yn cael ei chyfrifo drwy rannu cwmpas y wasg â chwmpas y glun. Mae’r risg i iechyd yn cynyddu wrth i gymhareb y wasg:clun gynyddu. Bydd oedolion ifanc yn wynebu risg uchel iawn o glefyd pan fydd eu WHR yn > 0.95 (dynion) ac > 0.86 (menywod). Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi gosod trothwyon ar gyfer 'risg cryn dipyn yn uwch o gymhlethdodau metabolig', sef ≥ 0.90 yn achos dynion a ≥ 0.85 yn achos menywod

Gall cwmpas y wasg ar ei ben ei hun gael ei ddefnyddio i ragfynegi risg i iechyd, fel yr amlinellir yn nhabl 4.2 (tudalen 73).